Yr Ardal

Disgrifiad o'r ardal sy'n cael ei chynrychioli gan y Cyngor.

Mae ardal Cyngor Tref Porthmadog yn cynnnwys tref Porthmadog ei hun yn ogystal â phentrefi Borth-y-Gest, Morfa Bychan, Pwllgoleulas a Thremadog.

Mae Porthmadog a Thremadog yn drefi cymharol newydd ac roedd 2011 yn flwyddyn bwysig wrth i'r ardal ddathlu dauganmlwyddiant adeiladu'r Cob enwog gan William Alexander Madocks.

Tremadog (h) Eric JonesStryd Fawr, Porthmadog (h) John LucasHarbwr Porthmadog (h) Alan Fryer

Tref harbwr yw Porthmadog ac mae'r ardal yn gyrchfan twristaidd boblogaidd. Mae miloedd yn heidio yma bob blwyddyn, boed i ymweld â'r traethau a'r mynyddoedd, i fwynhau'r siopau a'r bwytai amrywiol, neu i gael blas ar yr hanes diwylliannol a diwydiannol cyfoethog sy'n perthyn i'r ardal.

Yr harbwr yw canolbwynt Porthmadog. Oni bai am yr harbwr ni fydda Porthmadog yn bod fel tref. Yn ei ddydd roedd yr harbwr yn ferw o weithgaredd fel porthladd prysurau'r byd am allforio llechi ac fel cartref i'r diwydiant adeiladu llongau ddatblygodd yn ei sgil. Heddiw llongau pleser sydd wedi angori yn harbwr Porthmadog ac mae yna dawelwch hyfryd i'w gael o droedio ar hyd y cei gan ddychmygu'r prysurdeb a fu a'r ffyniant ddeilliodd o hynny. Mae ymweliad â'r Amgueddfa Fôr gerllaw yn gyfle i ail-fyw'r gorffennol a dysgu mwy am hanes morwrol unigryw harbwr Porthmadog.

Mae'r iaith Gymraeg yn iaith fyw ac yn rhan bwysig o ddiwylliant a hunaniaeth trigolion Porthmadog a'r ardal.

Mae tref Porthmadog wedi gefeillio â thref Wiclo yn Iwerddon. Gefeillwyd Porthmadog â Wiclo yn 2006 pan arwyddwyd siarter o gyfeillgarwch a chydweithio rhwng cynghorau'r ddwy dref. Mae'r siarter i'w gweld yn Y Ganolfan ym Mhorthmadog ac yn Neuadd y Dref yn Wiclo. Ers hynny bu mynych ymweliadau rhwng y ddwy dref wrth i gorau, bandiau ac amrwyiol gymdeithasau deithio'n ôl ac ymlaen dros Fôr Iwerddon gan greu cysylltiadau a chyfarfod â ffrindiau hen a newydd. Mae Clybiau Hwylio'r ddwy dref yn gyfarwydd â'i gilydd ers blynyddoedd ac mae'r cysylltiad wnaed rhwng Gwasanaethau Tân Porthmadog a Wiclo yn un o lwyddiannau mawr y gefeillo.

 

Ewch i www.porthmadog.co.uk i gael golwg ar arweinlyfr Porthmadog ac i gael mwy o wybodaeth am y dref.

Craig Ddu (h) Chris CarlsonStryd Fawr, Porthmadog (h) Eric JonesBorth Y Gest (h) David Medcalf

Hawlfraint: Cyngor Tref Porthmadog. Dylunio: www.Cymru1.net

Hawlfraint Lluniau:
Prif Llun Harbwr Porthmadog: Ken Bagnall
Llyn Bach: Kenneth Allen, Graig Ddu: Chris Carlson, Harbwr Borth Y Gest: David Medcalf, Gist Gerrig: Dewi, Harbwr Porthmadog: Alan Fryer,
Stryd Fawr, Porthmadog: John Lucas, Stryd Fawr, Porthmadog: Eric Jones, Tremadog: Eric Jones