Croeso

Mae ardal Cyngor Tref Porthmadog yn cynnwys tref Porthmadog ei hun yn ogystal â phentrefi Borth-y-Gest, Morfa Bychan, Pwllgoleulas a Thremadog.

Codwyd Tremadog ar dir a gipiwyd o’r môr ar ôl i William Alexander Madocks gwblhau’r morglawdd neu’r Cob dros aber Afon Glaslyn neu’r Traeth Mawr yn 1811. Tyfodd Porthmadog wedyn yn sgil datblygu diwydiant llechi Blaenau Ffestiniog fel porthladd ar gyfer allforio’r garreg las i bedwar ban byd. Yn ystod y cyfnod hwn hefyd roedd Porthmadog a Borth-y-Gest yn ganolfannau adeiladu llongau masnach o bwys.

Cyrchfan boblogaidd i ymwelwyr yw’r ardal erbyn hyn wrth iddynt heidio am draethau godidog Bae Tremadog neu am fynyddoedd a chlogwyni heriol Eryri. Mae yma amrwyiaeth o lety yn ogystal â bwytai a thafarndai sy’n cynnig prydau diddorol, blasus a fforddiadwy.

Bro Gymraeg yw Porthmadog gyda’r iaith a’r diwylliant yn greiddiol i’w hunaniaeth. Dyma fu cartref Eifion Wyn a William Jones Tremadog, Alltud Eifion - a Percy Bushe Shelley hefyd yn ei dro. Bu Twm o’r Nant yn troedio’r ardal a dyma fan geni Thomas Edward Lawrence o Arabia a’r tenor adnabyddus, Rhys Meirion.

Mae Porthmadog wedi’i gefeillio â thref Wiclo (Cill Mhantáin) yn Iwerddon.

Felly dewch i ardal Porthmadog i brofi ein diwylliant unigryw, ein hanes cyffrous a’r golygfeydd ysblennydd. Chewch chi mo’ch siomi.

Harbwr Porthmadog (h) Ken Bagnall

Hawlfraint: Cyngor Tref Porthmadog. Dylunio: www.Cymru1.net

Hawlfraint Lluniau:
Prif Llun Harbwr Porthmadog: Ken Bagnall
Llyn Bach: Kenneth Allen, Graig Ddu: Chris Carlson, Harbwr Borth Y Gest: David Medcalf, Gist Gerrig: Dewi, Harbwr Porthmadog: Alan Fryer,
Stryd Fawr, Porthmadog: John Lucas, Stryd Fawr, Porthmadog: Eric Jones, Tremadog: Eric Jones