Adroddiad y Cadeirydd
Gorffennaf 2023
Croesawyd pawb i’r cyfarfod olaf cyn gwyliau’r haf a dechreuodd y Cadeirydd ei Adroddiad trwy longyfarch Clwb Ffermwyr Ifanc Dyffryn Madog ar eu llwyddiant yn trefnu ac yn ennill y Rali a gynhaliwyd yn ddiweddar ar fferm Llystyn Ganol. Roedd yn dymuno’r gorau i bawb sydd wedi sefyll arholiadau yn ddiweddar ac yn dymuno pob llwyddiant iddynt i’r dyfodol. Roedd hefyd yn estyn ei gydymdeimlad at deuluoedd sydd wedi colli anwyliaid yn ddiweddar.
Roedd yn croesawu gweld busnesau newydd ar y Stryd Fawr ac yn gwerthfawrogi eu defnydd o arwyddion dwy-ieithog. Roedd hefyd yn canmol y baneri sydd wedi eu gosod ar rai o siopau’r dref. Bydd mwy o waith eto cyn bydd y broses wedi gorffen. Diolchodd i’r Clerc am drefnu. Dywedodd mai 4 wythnos yn unig sydd tan yr Eisteddfod ym Moduan ac roedd yn dymuno pob llwyddiant iddi. Braf yw gweld y dref yn cael ei addurno ar gyfer y Brifwyl a diolchodd i bawb sydd wedi ymwneud â’r fenter.
Cyfeiriodd at Lwfans y Cadeirydd ar gyfer y flwyddyn 2023-24. Mae wedi penderfynu rhoi cyfraniad o’i lwfans i Gyfeillion y dair ysgol gynradd leol i ddiolch iddynt am eu gwaith yn creu gweithiau celf er mwyn harddu’r ardal ar gyfer yr Eisteddfod. Gorffenodd trwy ddiolch i’r Cynghorwyr am eu gwaith caled dros y flwyddyn ddiwethaf ac i ddymuno’n dda iddynt dros y seibiant tan y cyfarfod nesaf ym mis Medi.