Croeso

Mae ardal Cyngor Tref Porthmadog yn cynnwys tref Porthmadog ei hun yn ogystal â phentrefi Borth-y-Gest, Morfa Bychan, Pwllgoleulas a Thremadog.

Codwyd Tremadog ar dir a gipiwyd o’r môr ar ôl i William Alexander Madocks gwblhau’r morglawdd neu’r Cob dros aber Afon Glaslyn neu’r Traeth Mawr yn 1811. Tyfodd Porthmadog wedyn yn sgil datblygu diwydiant llechi Blaenau Ffestiniog fel porthladd ar gyfer allforio’r garreg las i bedwar ban byd. Yn ystod y cyfnod hwn hefyd roedd Porthmadog a Borth-y-Gest yn ganolfannau adeiladu llongau masnach o bwys.

Cyrchfan boblogaidd i ymwelwyr yw’r ardal erbyn hyn wrth iddynt heidio am draethau godidog Bae Tremadog neu am fynyddoedd a chlogwyni heriol Eryri. Mae yma amrwyiaeth o lety yn ogystal â bwytai a thafarndai sy’n cynnig prydau diddorol, blasus a fforddiadwy.

Bro Gymraeg yw Porthmadog gyda’r iaith a’r diwylliant yn greiddiol i’w hunaniaeth. Dyma fu cartref Eifion Wyn a William Jones Tremadog, Alltud Eifion - a Percy Bushe Shelley hefyd yn ei dro. Bu Twm o’r Nant yn troedio’r ardal a dyma fan geni Thomas Edward Lawrence o Arabia a’r tenor adnabyddus, Rhys Meirion.

Mae Porthmadog wedi’i gefeillio â thref Wiclo (Cill Mhantáin) yn Iwerddon.

Felly dewch i ardal Porthmadog i brofi ein diwylliant unigryw, ein hanes cyffrous a’r golygfeydd ysblennydd. Chewch chi mo’ch siomi.

Hysbysfwrdd


Cynhelir cyfarfod nesaf Cyngor Tref Porthmadog ar 09/05/2023


24/02/23 - Hysbysiad o Gyfethol

3 x Cynghorydd yng Nghymuned Ddwyreiniol (Ward)
1 x Cynghorydd yng Nghymuned Ynys Galch (Ward)
1 x Cynghorydd yng Nghymuned Orllewinol (Ward)


Hysbysiad o bennu dyddiad ar gyfer arfer hawliau etholwyr - Y flwyddyn ariannol sy’n diweddu 31 Mawrth 2022


Hysbysiad am gwblhau archwiliad ac am yr hawl i arolygu’r cofnod blynyddol am y blynyddoedd yn gorffen 31 Mawrth 2020 a 2021


Adroddiad Flynyddol 2020-2021

Cyhoeddi cyfrifon archwiliedig ar gyfer y flwyddyn a ddaeth i ben 31 Mawrth 2021

Ffurflen Flynyddol 2020-2021


COVID-19

Roedd y Swyddog Ariannol Cyfrifol wedi llofnodio a thystio'r cyfrifon ar 1af o Ebrill 2020.

Mae rheoliad 15(2) o Reoliadau Cyfrifon ac archwilio (Cymru) 2014  (fel y'i diwygiwyd) yn eu gwneud yn ofynnol, yn dilyn yr ardystiad gan y swyddog cyfrifol y cyferir ato uchod, fod yn rhaid i'r Cyngor gymeradwyo'r cyfrifon . Mae'r Rheoliadau yn ei gwneud yn ofynnol cwblhau hyn erbyn 30 Mehefin 2020.

Oherwydd achos y Covid-19, nid yw Cyngor Tref Porthmadog wedi cwrdd i gymeradwyo'r cyfrifon.

***************

The Responsible Financial Officer signed and certified the accounts on 1st of April 2020.

Regulation 15(2) of the Accounts and Audit (Wales) Regulations 2014 (as amended) requires that following the certification by the Responsible Financial Officer referred to above, the Council must approve the accounts. The Regulations require that this be completed by 30 June 2020.

Due to the COVID-19 outbreak, Porthmadog Town Council  has not met to approve the accounts.


HYSBYSIAD O BENNU DYDDIAD AR GYFER ARFER HAWLIAU ETHOLWYR
Y flwyddyn ariannol sy’n diweddu 31 Mawrth 2021


Mae Cyngor Tref Porthmadog yn chwilio am aelod o'r gymuned leol i'w cynrychioli ar fwrdd Llywodraethol Ysgol Eifion Wyn. Os oes gennych ddiddordeb cysylltwch efo'r Clerc -  clerccyngtreport@gmail.com neu ffonio 01766 513709.


Darllenwch Adroddiad Cadeirydd Cyngor Tref Porthmadog - rhowch glic yma


Lawrlwythwch cofnodion cyfarfodydd y Cyngor trwy ymweld â'n tudalen Cofnodion

Harbwr Porthmadog (h) Ken Bagnall

Hawlfraint: Cyngor Tref Porthmadog. Dylunio: www.Cymru1.net

Hawlfraint Lluniau:
Prif Llun Harbwr Porthmadog: Ken Bagnall
Llyn Bach: Kenneth Allen, Graig Ddu: Chris Carlson, Harbwr Borth Y Gest: David Medcalf, Gist Gerrig: Dewi, Harbwr Porthmadog: Alan Fryer,
Stryd Fawr, Porthmadog: John Lucas, Stryd Fawr, Porthmadog: Eric Jones, Tremadog: Eric Jones