Croeso

Mae ardal Cyngor Tref Porthmadog yn cynnwys tref Porthmadog ei hun yn ogystal â phentrefi Borth-y-Gest, Morfa Bychan, Pwllgoleulas a Thremadog.

Codwyd Tremadog ar dir a gipiwyd o’r môr ar ôl i William Alexander Madocks gwblhau’r morglawdd neu’r Cob dros aber Afon Glaslyn neu’r Traeth Mawr yn 1811. Tyfodd Porthmadog wedyn yn sgil datblygu diwydiant llechi Blaenau Ffestiniog fel porthladd ar gyfer allforio’r garreg las i bedwar ban byd. Yn ystod y cyfnod hwn hefyd roedd Porthmadog a Borth-y-Gest yn ganolfannau adeiladu llongau masnach o bwys.

Cyrchfan boblogaidd i ymwelwyr yw’r ardal erbyn hyn wrth iddynt heidio am draethau godidog Bae Tremadog neu am fynyddoedd a chlogwyni heriol Eryri. Mae yma amrwyiaeth o lety yn ogystal â bwytai a thafarndai sy’n cynnig prydau diddorol, blasus a fforddiadwy.

Bro Gymraeg yw Porthmadog gyda’r iaith a’r diwylliant yn greiddiol i’w hunaniaeth. Dyma fu cartref Eifion Wyn a William Jones Tremadog, Alltud Eifion - a Percy Bushe Shelley hefyd yn ei dro. Bu Twm o’r Nant yn troedio’r ardal a dyma fan geni Thomas Edward Lawrence o Arabia a’r tenor adnabyddus, Rhys Meirion.

Mae Porthmadog wedi’i gefeillio â thref Wiclo (Cill Mhantáin) yn Iwerddon.

Felly dewch i ardal Porthmadog i brofi ein diwylliant unigryw, ein hanes cyffrous a’r golygfeydd ysblennydd. Chewch chi mo’ch siomi.

Hysbysfwrdd


Cynhelir cyfarfod nesaf Cyngor Tref Porthmadog ar 14/10/2025


SEDD WAG ACHLYSUROL – WARD DDWYREINIOL

CASUAL VACANCY – EASTERN WARD


Cyfarfod Agored i fusnesau ym Mhorthmadog
6:00 y.p. ar ddydd Mawrth 7fed Hydref, Ystafell Glaslyn, Y Ganolfan, Porthmadog

Pwrpas y cyfarfod yw ailsefydlu Siambr Fasnac neu sefydliad tebyg ar gyfer busnesau yn y dref.

Bydd Cyngor Gwynedd a Chyngor Tref Porthmadog yno i gefnogi a bydd cyfieithydd ar gael.

Cyfeiriwch unrhyw ymholiadau at Glerc Cyngor Tref Porthmadog


Open Meeting for Porthmadog based businesses
6:00 p.m. on Tuesday 7th October, Ystafell Glaslyn, Y Ganolfan, Porthmadog

The purpose of the meeting is to re-establish a Chamber of Trade or similar organisation for business within the town.

Gwynedd Council & Porthmadog Town Council will be there to support and there will be a translator available.

Please refer any enquires to the Clerk of Porthmadog Town Council


Hysbysiad o benodi o'r dyddiad ar gyfer arfer hawliau etholwyr - Blwyddyn ariannol sy'n dod i ben 31 Mawrth 2025


Hysbysiad am gwblhau archwiliad ac am yr hawl i arolygu’r cofnod blynyddol am y flwyddyn yn gorffen 31 Mawrth 2024


SEDD WAG ACHLYSUROL – TREMADOG A YNYS GALCH

CASUAL VACANCY – TREMADOG AND YNYS GALCH


Llyfryn Cymunedoli - Cymuned o Gymunedau


Darllenwch Adroddiad Cadeirydd Cyngor Tref Porthmadog - rhowch glic yma


Lawrlwythwch cofnodion cyfarfodydd y Cyngor trwy ymweld â'n tudalen Cofnodion

Harbwr Porthmadog (h) Ken Bagnall

Hawlfraint: Cyngor Tref Porthmadog. Dylunio: www.Cymru1.net

Hawlfraint Lluniau:
Prif Llun Harbwr Porthmadog: Ken Bagnall
Llyn Bach: Kenneth Allen, Graig Ddu: Chris Carlson, Harbwr Borth Y Gest: David Medcalf, Gist Gerrig: Dewi, Harbwr Porthmadog: Alan Fryer,
Stryd Fawr, Porthmadog: John Lucas, Stryd Fawr, Porthmadog: Eric Jones, Tremadog: Eric Jones